Dylan Thomas, Criw’r Kardomah, yr Actor a’r Comedïwr

Date/Time
06/09/2014
11:00 am - 5:30 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Canolfan Dylan Thomas

Man dechrau/gorffen

Y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas

Dywedir yn aml y byddai Dylan yn addasu ei bersonoliaeth yn ôl ei gynulleidfa, gan yngan sylwadau bachog treiddgar yn ogystal â chael ei dynnu i mewn i brofiadau hynod ddoniol a swrrealaidd. Roedd ffrindiau ei blentyndod cynnar yn hollbwysig i ddatblygiad y bardd, yr actor, y comedïwr a’r dyn.  A hwythau’n byw yn ardal ehangach Abertawe a Gŵyr, roeddent yn cynnwys Vernon Watkins a oedd yn gyd-fardd, yn glerc banc ac yn aelod o Griw’r Kardomah a Dan Jones, cydbechadur ei febyd, cyfansoddwr ac ieithydd, yn ogystal â Bert Trick y groser sosialaidd, cydweithwyr Thomas ar y South Wales Daily Post a chriw actio amatur y Theatr Fach.  Bydd Dr John Goodby a chadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas, Jeff Towns, yn ystyried dylanwad y bobl hyn ar bersonoliaeth a barddoniaeth Dylan trwy’r lleoedd lle’r oedd yn cymdeithasu. Dewch ar daith trwy Abertawe a Gŵyr a chlywed sgwrs fer gan Sidney Roe, a dreuliodd ei blentyndod gyda Dylan ac a oedd yn brif beiriannwr gyda BBC Abertawe, wrth fwynhau cinio yn Langland’s Brasserie. Bydd yr ymweliad yn gorffen gyda thaith gerdded fer lan i Faen Ceti yng Nghefn Bryn – lle ceisiodd Dylan alw ar ysbrydion ar ôl perfformio drama.

Tocynnau: £32

Lluniaeth: Cinio dau gwrs a theisen brynhawn ynghlwm wrth y pris. Nid yw’n cynnwys diodydd.

Dillad a argymhellir: Dillad dwrglos ac esgidiau gwydn cyfforddus; haenau cynnes, eli haul a het.

Gellir prynu tocynnau yn www.llenyddiaethcymru.org | 02920 472266

This post is also available in: English