Gŵyl Dylan Thomas

Date/Time
27/10/2014 - 09/11/2014
All Day

Location
Canolfan Dylan Thomas


Yn ystod y flwyddyn sy’n dathlu can mlynedd ers geni Dylan Thomas, bydd 17eg wˆ yl flynyddol Dylan Thomas yn cynnwys cymysgedd trydanol o ddigwyddiadau a gwesteion bendigedig. Bydd llawer o ddigwyddiadau gwych, gan gynnwys sgyrsiau, gweithdai, arddangosfeydd a pherfformiadau – gan gynnwys Return Journey, digwyddiadau sy’n
canolbwyntio ar farddoniaeth rhyfel, i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, lansiad argraffiad newydd
o Dylan Thomas’ Collected Poems gyda John Goodby a noson o fwrlésg wedi’i hysbrydoli gan Dylan Thomas o Bluestocking Lounge. Paul Henry sy’n curadu digwyddiad lle mae pedwar bardd yn rhannu eu hoff gerddi Dylan Thomas a gallwch weld lansiad prynhawn o Little Man, casgliad cyntaf Richard Jones. Mae Hilly Janes yn siarad am ‘Swansea’s Brush With Brilliance’. Mae’r wˆ yl hefyd yn nodi noson agoriadol yr arddangosfa Dylan Thomas newydd sbon ar 27 Hydref. Oherwydd derbyniwyd £935,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym wedi ailwampio ac ehangu’r
arddangosfa fel y gallwch weld mwy byth o eitemau a phethau cofiadwy unigryw, a oedd wedi’u harchifo gynt, o fywyd mab enwocaf Abertawe.

This post is also available in: English