Gweithdy ‘Holiday Memory’: Llyfrau Nodiadau a Llyfrau Lloffion i’w cadw

Date/Time
29/07/2022
1:00 pm - 4:00 pm


Dydd Gwener 29 Gorffennaf, 1pm – 4pm

Ymunwch â ni yr haf hwn wrth i’n gweithdai ar thema ‘Holiday Memory’, sy’n addas i deuluoedd, ddychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas. Yn ein gweithdy cyntaf byddwn yn gwneud llyfrau nodiadau a llyfrau lloffion i’w cadw.

Bydd amrywiaeth o lyfrau gwahanol i’w gwneud sy’n addas i ystod o oedrannau ac arddulliau. Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad. Os nad oes lle ar gael yn syth ar ôl cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w mwynhau yn ein lle arddangos.

Mae’r gweithdy hwn yn fwyaf addas ar gyfer teuluoedd, o 5 oed i oedolion. Mae ardal weithgareddau hefyd ar gael ar gyfer plant iau.

Galwch heibio 1pm – 4pm

Am ddim

This post is also available in: English