Gweithdy ‘Holiday Memory’: Cardiau post

Gweithdy ‘Holiday Memory’: Cardiau post

Date/Time
12/08/2022
1:00 pm - 4:00 pm


Galwch heibio rhwng 1pm a 4pm, am ddim

Ymunwch â ni yr haf hwn wrth i’n gweithdai ar thema ‘Holiday Memory’, sy’n addas i deuluoedd, ddychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn gwneud ac yn printio cardiau post! Gallwch dynnu llun, printio a chreu collage ar eich cerdyn post gyda’n ystod gwych o nwyddau ar gyfer gwneud cardiau post. Yna beth am godi ysbryd rhywun drwy dynnu llun neu ysgrifennu neges bersonoledig? 😀

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad. Os nad oes lle ar gael yn syth ar ôl cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w mwynhau yn ein lle arddangos.

Mae’r gweithdy hwn yn fwyaf addas ar gyfer teuluoedd, o 3 oed i oedolion.

 

This post is also available in: English