Extraordinary Little Cough Dylan Thomas

Date/Time
15/09/2014
2:00 pm

Location
Rhossili


Dyma gyfle arall i fwynhau’r perfformiad cerdded un dyn gan Gwmni Theatr Lighthouse ar hyd y clogwyni yn Rhosili. Mae’n adrodd hanes Dylan Thomas a chriw o ffrindiau’n codi pàs o Abertawe i bellafoedd gwyllt Rhosili am bythefnos o wersylla. Prin roeddent yn gwybod mai yn aros amdanynt fyddai merched synhwyrus, bwlïau cas a llwyth o broblemau. Mae’r perfformiad yn addas i deuluoedd. Darperir lluniaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ‘Ŵyl Caru Cefn Gwlad’ sy’n cynnig 60 o ddigwyddiadau rhwng 6 a 21 Medi, y mae’r rhan fwyaf ohonynt am ddim.

Tocynnau: Dim tâl ond mae’n hanfodol cadw lle. I gadw lle a chael mwy o fanylion, ffoniwch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 01792 390636 neu e-bostiwch gower.admin@nationaltrust.org.uk.

Am fwy o wybodaeth: www.abertawe.gov.uk/loveyourcountrysidefestival

This post is also available in: English