Dylan Thomas: Ei Bobl a’i Leoedd

Date/Time
20/09/2014 - 11/10/2014
10:00 am - 5:00 pm

Location
Attic Gallery


Mae Oriel yr Atig yn dathlu canmlwyddiant Dylan Thomas gyda ‘Dylan Thomas – Ei Bobl a’i Leoedd,’ arddangosfa o waith wedi’i gomisiynu’n benodol. Gofynnwyd i saith artist Cymreig blaenllaw sy’n gyfarwydd â’i waith i ddirnad a dehongli, yn eu ffordd unigryw eu hunain, yr hyn a welai Thomas ac, o ganlyniad, yr hyn a’i ysbrydolai.  Bydd yr arddangosfa unigryw hon hefyd yn cynnwys paentiadau o Abertawe gan Jack Jones, cyfoeswr Dylan o’r 1920au; nid yw’r gweithiau hyn wedi’u harddangos yn gyhoeddus o’r blaen.

Mae’r artistiaid yn cynnwys Glenys Cour, ffrind i Dylan Thomas, y mae ei phaentiadau haniaethol lliwgar yn datgelu golwg farddonol ar Fae Abertawe, gwaith gan Mike Jones o astudiaethau y tu mewn i gaffi’r Kardomah a Maurice Sheppard y mae ei dirluniau o orllewin Cymru yn archwilio cefn gwlad plentyndod Thomas.

Mae gan etifeddiaeth Oriel yr Atig ei hun gysylltiadau artistig â’r bardd. Datblygodd yr oriel o ddeinameg cyfoedion creadigol Dylan Thomas yn Abertawe a hon yw’r oriel breifat hynaf yng Nghymru. Yn wir, roedd arddangosfa agoriadol yr oriel ym 1962 yn cynnwys gwaith gan y cerfluniwr Ron Cour ac Alfred Janes, y ddau’n ffrindiau agos i Thomas. Wedi hynny, agorodd ei gyd-fardd Vernon Watkins nifer o arddangosfeydd yn yr oriel. Arddangosfa am ddim.

Am fwy o wybodaeth:  www.atticgallery.co.uk  01792 653387

This post is also available in: English