‘Crëwr Digrifwch, Meistr Arswyd, Dyfeisiwr Anghenfil’: Gweithdy i Oedolion gyda Rebecca Parfitt

‘Crëwr Digrifwch, Meistr Arswyd, Dyfeisiwr Anghenfil’: Gweithdy i Oedolion gyda Rebecca Parfitt

Date/Time
27/08/2016
10:00 am - 1:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Rebecca Parfitt 28 August‘Crëwr Digrifwch, Meistr Arswyd, Dyfeisiwr Anghenfil’: Gweithdy i Oedolion gyda Rebecca Parfitt

Ymunwch â golygydd The Ghastling ar gyfer gweithdy ysgrifennu unigryw sy’n archwilio’r arswyd a’r erchylltra yn straeon byrion Roald Dahl i oedolion ac ysgrifennwch eich stori’ch hunan gan ddefnyddio elfennau arbennig Dahl.

Mae’r gweithdy’n archwilio straeon wedi’u dewis yn arbennig sy’n canolbwyntio ar gymeriadaeth Roald Dahl, y swrreal a’r erchyll, yr arswyd a’r ‘rhamant’ ddomestig, a ‘throeon’ Dahl.

Hefyd, mae cyfle i waith cyfranogwyr gael ei gyhoeddi yn The Ghastling .

Tocynnau

  • Pris Llawn £7
  • Consesiynau £4.50
  • PTL Abertawe £2.30

Cadwch le ymlaen llaw gan mai 10 yn unig sydd.


Book now

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100 Cymru.

Dyfeisio Digwyddiad - Invent your Event - Chapter 2 Logo 1

This post is also available in: English