The Filmscripts

Dylan Thomas – The Filmscripts, golygwyd gan John Ackerman (Llundain: Dent, 1995)

Roedd Dylan Thomas yn dwlu ar fynd i’r sinema o oedran ifanc. Ysgrifennodd draethawd, ‘The Films’, ar gyfer cylchgrawn Ysgol Ramadeg Abertawe yn ei arddegau, a thua diwedd ei fywyd ymddangosodd mewn symposiwm yn Efrog Newydd ar ‘Poetry and the Film’.

Cyflawnwyd y rhan fwyaf o’i waith ffilm yn ystod y rhyfel ar gyfer Strand Films. Roedd ei gydweithwyr yn cynnwys Graham Greene, Philip Lindsay a Julian Maclaren-Ross. Roedd yn weithiwr cyflogedig amser llawn, gan ysgrifennu sgriptiau ar gyfer ffilmiau dogfen propaganda, a ffilmiau eraill (megis Rebecca’s Daughters, a ffilmiwyd gan Karl Francis yn y 1990au) hanesyddol a dramâu gwleidyddol.

Ceir cyflwyniad cynhwysfawr i’r llyfr cyfan, a phob ffilm yn unigol, gan John Ackerman.

  • The Films
  • This is Colour
  • New Towns for Old
  • Balloon Site 568
  • CEMA
  • Young Farmers
  • Wales – Green Mountain, Black Mountain
  • Battle for Freedom
  • These are the Men
  • Conquest of a Germ
  • The Unconquerable People
  • Our Country
  • Fuel for Battle
  • A City Re-Born
  • A Soldier Comes Home
  • The Doctor and the Devils
  • Twenty Years A-Growing
  • Betty London
  • The Shadowless Man
  • The Three Weird Sisters
  • No Room at the Inn
  • The Beach of Falesa
  • Me and My Bike
  • Rebecca’s Daughters
  • Poetry and the Film: A Symposium

This post is also available in: English