Datganiad preifatrwydd

Preifatrwydd a Chwcis

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddefnydd yr wybodaeth bersonol a gesglir gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe pan ewch i www.dylanthomas.com.

Pan fydd rhywun yn mynd i www.dylanthomas.com, rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion am ymddygiad a phatrymau pobl sy’n mynd i’r wefan. Rydym yn gwneud hyn i gasglu gwybodaeth am bethau megis nifer y bobl sy’n mynd i wahanol rannau o’r wefan. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn modd nad yw’n datgelu pwy yw’r unigolyn. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ymdrech i wybod pwy yw’r unigolion sy’n mynd i’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r wefan hon ag unrhyw wybodaeth bersonol a ddaw o unrhyw ffynhonnell. Os ydym yn dymuno casglu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn trwy ein gwefan, byddwn yn dweud hyn wrthych ymlaen llaw. Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny’n amlwg a byddwn yn esbonio sut rydym yn bwriadu ei defnyddio.

Cwcis
Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am sicrhau eu bod yn gyfleus, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau trwy’r rhyngrwyd, weithiau gosodir darnau bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, eich cyfrifiadur neu eich ffôn symudol. Mae hyn yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis. Nid oes modd eu defnyddio i ddatgelu pwy ydych chi.

Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella’ch gwasanaethau, er enghraifft:

  • trwy alluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel na fydd rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod yr un dasg;
  • adnabod bod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair eisoes fel na fydd rhaid i chi wneud hyn bob tro rydych yn mynd i dudalen newydd;
  • cyfrif nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio a bod digon o allu i sicrhau eu bod yn gyflym.

Gallwch reoli’r ffeiliau bach hyn eich hunan trwy ddarllen yr wybodaeth ganlynol ar wefan Directgovwww.direct.gov.uk/managingcookies.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch iwww.allaboutcookies.org.

Sut rydym yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar www.dylanthomas.com i wella’n gwasanaethau ar-lein.

Mae Google Analytics yn gosod cwcis i’n helpu i gael amcangyfrif dibynadwy o nifer y bobl sy’n mynd i’r wefan a faint o ddefnydd a wneir ohoni. Diben hyn yw sicrhau bod y gwasanaeth ar gael yn gyflym i chi pan fydd ei angen arnoch.

Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth amhersonol am ddefnyddwyr y wefan. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi ar wahân i’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i weinyddu’r wefan.

Mae cwcis yn ddarnau o ddata sy’n cael eu creu pan fyddwch yn mynd i wefan. Maent yn cynnwys rhif unigryw, dienw. Maent yn cael eu cadw yng nghyfeiriadur cwcis eich gyriant caled ac ni chânt eu dileu ar ddiwedd eich sesiwn. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac nid oes modd eu defnyddio i ddatgelu pwy yw defnyddwyr unigol. Os ydych yn dewis peidio â derbyn y cwci, ni fydd hyn yn effeithio ar eich gallu i ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r cyfleusterau ar ein gwefan.

Hyd yn oed os yw’ch porwr wedi’i osod i ganiatáu creu cwcis, gallwch ddewis bod gwefan yn gofyn am eich caniatâd cyn gosod cwci ar eich disg caled. Felly gallwch benderfynu caniatáu’r cwci ai peidio. Gallwch hefyd osod eich cyfrifiadur fel na fydd yn derbyn unrhyw gwci.

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ystadegol. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Google Analytics yn prosesu’r wybodaeth hon, ewch i www.google.com/analytics. I ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws POB gwefan, ewch i tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Pan fyddwch yn mynd i www.dylanthomas.com efallai y byddwch yn sylwi nad yw rhai cwcis yn berthnasol i Ddinas a Sir Abertawe. Os ydych yn agor tudalen â chynnwys o wefan arall, er enghraifft YouTube neu Flickr, mae’n bosibl y byddwch yn derbyn cwcis o’r gwefannau hyn. Nid yw Dinas a Sir Abertawe’n rheoli lledaeniad y cwcis hyn. Dylech fynd i wefannau’r trydydd partïon hyn i gael mwy o wybodaeth.

Sut mae gwybodaeth yn cael ei defnyddio
Pan rydych yn dewis rhoi’ch manylion personol i ni, defnyddir y data personol a ddarparwyd gennych i Gyngor Dinas a Sir Abertawe ar gyfer darparu’r wybodaeth neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdani/amdano.

Mewn rhai achosion, gallwn eich gwahodd i gofrestru am wasanaethau ychwanegol ar yr un pryd (er enghraifft, rhestr bostio reolaidd) – gallwch ddewis peidio â derbyn y gwahoddiad hwn.

This post is also available in: English