Mwgwd Angau Dylan

DTM00011Un o bum cast a gerfluniwyd gan David Slivka (1914 – 2010) yn Efrog Newydd, Tachwedd 1953. Cafodd hwn, y penddelw olaf a luniwyd o fasg angau Dylan, ei gyflwyno i Ganolfan Dylan Thomas gan David Slivka ei hun ym mis Hydref 2001 yng Ngŵyl Dylan Thomas.

Cafodd Slivka a Thomas ill dau eu geni ar 27 Hydref 1914, a daethant yn ffrindiau agos ar ôl cwrdd yn Greenwich Village yn y 1950au. Gweithiodd yr artist Ibram Lassaw gyda Slivka ar y pen angau gwreiddiol.

Mae’r darn canlynol yn hanu o hafan gwefan yr artist: davidslivka.com

Mae arwyddocâd dyfnach i greu “Mwgwd Angau” neu “Ben Dylan” na’r awydd i gadw eiliad ei bresenoldeb corfforol mewn marwolaeth.  Ystyrir yn gyffredinol mai Dylan Thomas yw bardd gorau Cymru.

Mae dychwelyd y replica efydd hwn i’w bobl ond yn arwydd gostyngedig o gariad, lle nad oes modd mesur maint yr ystyrlonrwydd y mae Dylan wedi’i adael gyda ni trwy’i bresenoldeb byw a’i gelf. A ninnau’n dri artist o America, hoffem gredu ein bod yn freintiedig mewn ffordd fach i siarad dros pob artist Americanaidd na all ddod o hyd i’r geiriau teyrnged digonol i fynegi’r hyn y mae Dylan wedi’i olygu yn ein bywydau ac yn ein hoes.

Fel cerfluniwr, roeddwn yn gwybod mor hardd oedd y pen hwnnw. Fel ffrind a oedd wedi cael ei gyfoethogi gan ei eiriau a’i feddyliau, ac a oedd wedi rhoi mewn cyfnewid, wedyn i wynebu’r distawydd hir – roeddwn yn teimlo’r angen – i roi ohono fy hun, i ddal yr atgof corfforol o Dylan i mi fy hun, ac i eraill. Roedd yn debyg ar y pryd mai dyna’r cyfan oedd ar ôl, ac eto’n gwybod na fyddai unrhyw atgof na thragwyddoldeb yn nelw cwsg angau byth yn cyflawni aruthredd y geiriau a’r delweddau a luniwyd gan Dylan, wedi’u gadael gan y llais hwnnw a’r llaw honno.

Penderfynais ofyn am gymorth y cerfluniwr Ibram Lassaw, ffrind a oedd yn teimlo’r un modd â mi am bwysigrwydd creu’r mwgwd. Ein cydweithrediad llwyddiannus yn unig a wnaeth y gwaith hwn yn bosibl. Byddai adrodd hanes cyfan creu’r “Mwgwd Angau”  (“Pen”), gyda’r holl agweddau hynod deimladwy, rhyfedd, difyr ac eironig a oedd ynghlwm wrth hynny, yn stori na allai neb ond Dylan fod wedi gwneud cyfiawnder â hi – a byddai wedi mwynhau adrodd y stori hon.

Pwy a wŷr, gallai hyn fod wedi’i ysgogi i gyfansoddi “Marwnad ar gyfer Cerfluniwr” petai ein rolau wedi’u cyfnewid.

David Slivka
Efrog Newydd
Mai 1964

This post is also available in: English