Chwe thudalen wreiddiol o ail gasgliad Dylan Thomas, ‘Twenty Five Poems’

six mounted originalsPanel wedi’i fframio yn cynnwys chwe thudalen wreiddiol wedi’u mowntio o ail gasgliad Dylan Thomas, ‘Twenty Five Poems’. Y wynebddalen yn ogystal â chyfres o sgribliadau gan Thomas.

Mewn llythyr cynnar ysgrifennodd, “I write, I paint, I draw, I dance.” (Ar achlysur arall, ei linell agoriadol pan oedd yn ceisio gwneud argraff ar ferch oedd “have you seen the Gaugins?”) Roedd gan Dylan gysylltiadau â’r ysgol gelf trwy’r Kardomah Boys – roedd yr artist Fred Janes, er enghraifft, yn ffrind agos.

Cyhoeddodd J.M. Dent ‘Twenty Five Poems’ ym mis Medi 1936. Fel ’18 Poems’, nifer bach a gyhoeddwyd – 730 o gopïau – ond Dent oedd cyhoeddwr Dylan trwy gydol ei yrfa a chynyddodd nifer yr argraffiadau wrth iddo ddod yn fwy adnabyddus.

Ym 1952, cyhoeddwyd 4,760 o gopïau mewn un argraffiad o ‘Collected Poems’; erbyn 1955, roedd y llyfr ar ei 8fed argraffiad a gwerthwyd 30,800 o gopïau. Mae’n ddiddorol nodi bod 16 o’r 25 o gerddi yn ei ail lyfr yn seiliedig ar fersiynau ac adolygiadau o gerddi a ysgrifennwyd yn ei nodiaduron o Abertawe cyn 1934.

 

This post is also available in: English