Argraffiad cyntaf o ‘The Map of Love’

map of love

Argraffiad cyntaf o drydydd llyfr Dylan, ‘The Map of Love’, cyhoeddwyd gan Dent ym 1939.

Mae wynebddarlun y llyfr yn atgynhyrchiad du a gwyn o’r portread rhamantaidd o Dylan gan Augustus John. Mae’r llyfr yn gasgliad o straeon byrion a cherddi ac er mai ei drydydd llyfr ydyw, dyma’r cyntaf i gynnwys rhyddiaith, gan gynnwys ‘The Burning Baby’ a straeon byrion eithaf swrrealaidd eraill. Ni chyhoeddwyd y llyfr nes datrys anghydfod hir â golygydd Dylan yn Dent, Richard Church, nad oedd yn fodlon ar rai o’r elfennau swrrealaidd yn yr ysgrifennu, ond a oedd yn poeni hyd yn oed yn fwy gan yr hyn a ddisgrifiodd fel “moments of sensuality without purpose” mewn rhai o’r straeon.

Er ei fod yn dirmygu’r fath feirniadaeth (gwawdiwyd Church ganddo mewn llythyrau at Henry Treece a Vernon Watkins, gan ei alw’n “pie-fingering hack” a “the fish”), roedd llyfr nesaf Thomas, ‘Portrait of the Artist as a Young Dog’, yn cynnwys rhyddiaith yn unig, ac roedd y straeon hyn yn ymddangos fel straeon lled-hunangofiannol mwy arferol wedi’u seilio ar ei blentyndod a’i lencyndod yn Abertawe a chefn gwlad Sir Gâr.

This post is also available in: English