‘The rocketing wind’

Yng Nghymru, ac yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, gall y tywydd fod yn hynod anrhagweladwy; nodweddir yr amser byrhoedlog rhwng diwedd y gaeaf a dechrau’r gwanwyn yn aml gan dywydd stormus, annymunol o oer gyda gwyntoedd cythreulig, yn ogystal â dyddiau mwyn a thawel. Mae hen ddywediad yn dyddio’n ôl i’r 1600au sy’n datgan y ‘Daw mis Mawrth fel llew ac mae’n gadael fel oen’, er gall y gwrthwyneb fod yn wir am rai blynyddoedd, pan fydd dechrau mis Ebrill yn ddim byd tebyg i wanwyn.

Does dim syndod bod cerddi, straeon, dramâu a llythyrau Dylan Thomas yn llawn cyfeiriadau at y gwynt, oherwydd bu’n byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn agos i arfordir Cymru, Yn y stori ‘Who do you wish was with us’, wrth deithio i Pen Pyrod ym Mhenrhyn Gŵyr, mae’r storïwr yn nodi ‘Even on this calmest day a wind blew along the Worm’. Yn sicr, roedd cartref teuluol Dylan yn Rhodfa Cwmdoncyn yn ardal Uplands yn Abertawe, a adeiladwyd yn uchel ar fryn sy’n edrych dros Fae Abertawe, wedi dioddef effaith stormydd o bryd i’w gilydd: ‘the October wind/ With frosty fingers punishes my hair’ (‘Especially when the October wind’).

Wrth aros ym Mlaen Cwm yn Llangain, pâr o fythynnod a oedd yn berchen i deulu ei fam yng ngorllewin Cymru, ysgrifennodd Dylan pan oedd yn ddeunaw oed at ei gariad o Loegr, Pamela Hansford Johnson, gan gwyno: ‘Oh hell to the wind as it blows these pages about….Oh hell to the wind as it blows my hair over my forehead.’ Yn ddigrif, mae’n mynd ymlaen i ddweud nad yw’n gwisgo fest ac yn cwyno bod yr awel gref yn ei gwneud hi’n rhy oer i barhau i ysgrifennu! Yn blentyn, bu Dylan yn dioddef pyliau o asthma a broncitis yn aml, ac efallai fod absenoldeb dylanwad maldodaidd ei fam yn ôl yn Abertawe faestrefol yn helpu i esbonio ei sylwadau trechedig.

Bu Dylan yn grwydryn erioed a bu bynglo rhent a oedd yn nannedd y gwynt yng Nghei Newydd yn y gorllewin ac yn edrych dros Fae Ceredigion, yn gartref i Dylan a’i deulu yn ystod 1944 a 1945 – ‘a shack at the end of the cliff’ fel y disgrifiodd Dylan ef. Ond ei breswylfa fwyaf adnabyddus yn ddi-os oedd y Tŷ Cychod, yn nhref glan môr Talacharn, sydd ar ymyl moryd hardd y Taf. Dyma hefyd lle’r oedd yn ysgrifennu yn y sied ysgrifennu eiconig, ar ben y bryn ac yn mynd ar deithiau cerdded yn y gwyntoedd cryfion: ‘the rocketing wind will blow the bones out of the hills’ (‘ Poem on his Birthday ‘).

Awel fwynach a geir ar ddechrau drama i leisiau enwog Dylan, ‘Dan y Wenallt’, sydd wedi’i gosod ym mhentref ffuglennol Llareggub, ac mae llawer o bobl yn ystyried mai Talacharn fu’n ysbrydoliaeth i’r pentref ffuglennol hwnnw. Yn yr araith agoriadol mae’r adroddwr yn disgrifio ‘ymdeithgan urddasol y gwynt yn Heol y Brenin a Lôn Cregyn’.

Mae llawer mwy o enghreifftiau: swatiwch yn braf mewn cadair freichiau gyda gwaith Dylan a darganfyddwch fwy wrth i’r gwynt symud ar draws ‘lle mae’r cychod pysgota’n hen aflonyddu’.

Linda Evans a Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English