Gwobr Terry Hetherington 2018

Ymhen ychydig wythnosau, byddwn yn dathlu creadigrwydd, gwreiddioldeb a chyflawniadau’r ysgrifenwyr ifanc mwyaf talentog yng Nghymru.

Sefydlwyd Gwobr Ysgrifenwyr Ifanc Terry Hetherington yn 2009, er cof am yr awdur o fri Terry Hetherington. Diben y wobr yw cynnig cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru fynegi eu hunain drwy ysgrifennu creadigol, gyda £1,000 yn cael ei roi i’r enillydd. Ers ei sefydlu, mae Canolfan Dylan Thomas wedi cynnal y noson wobrwyo bob blwyddyn, gyda nifer o lyfrau’n cael eu lansio gan enillwyr blaenorol y wobr.

Enillwyr 2018

Enillydd eleni yw Katya Johnson, myfyriwr PhD sy’n astudio Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl byw yng nghanolbarth Cymru ers 2015, mae ei stori fuddugol wedi’i gosod ym mhentref arfordirol ei chartref, sef Borth. Mae ei gwaith creadigol a beirniadol wedi’i gyhoeddi gan nifer o gyfryngau cyhoeddi yng Nghymru gan gynnwys Poetry Wales a The New Welsh Review. Mae hi’n hawlio Gwobr Terry Herrington 2018 am ei stori o’r enw ‘Silver Darling’.

 

Yn yr ail safle am farddoniaeth yw Thomas Tyrrell. Mae Thomas yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac mae wedi gorffen ei draethawd ymchwil doethuriaeth am farddoniaeth y ddeunawfed ganrif. Ar ôl dod yn ail am farddoniaeth yn 2017, mae ei waith wedi ymddangos yn flaenorol yn Lonesome October a Words for the Wild. Ei gais buddugol ar gyfer 2018 yw cerdd o’r enw ‘Sometimes in Summer’.

 

Yn yr ail safle am ffuglen yw Michael Muia. Ar ôl gwasanaethu ym Mosnia ac Affghanistan fel aelod o’r Gwarchodlu Cymreig, mae Michael bellach yn ei flwyddyn gyntaf fel myfyriwr Hanes ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Mae ganddo sawl sgript, ar gyfer y sgrîn a’r llwyfan ar gamau amrywiol, ac mae hefyd yn ysgrifennu nofel fer. Ei gais buddugol yw stori o’r enw ‘Young Tommy’.

 

Enillwyr blaenorol

Mae gan Wobr Terry Hetherington hanes anhygoel o gefnogi datblygiad a chynyddu proffil ysgrifenwyr ifanc sy’n mynd ymlaen i gyflawni campau bendigedig.

Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Jonathan Edwards, sydd wedi ennill Gwobr Costa ers hynny; Siôn Tomos Owen, y cyhoeddwyd ei lyfr, Cawl, y llynedd ac sydd newydd ysgrifennu a chyflwyno cyfres ar gyfer S4C, Pobl y Rhondda; a Tyler Keevil, sydd wedi ennill gwobrau niferus am ei waith ffuglen. Ymhlith yr enillwyr blaenorol y mae’r beirdd arobryn Anna Lewis a Jemma L. King, ynghyd â Georgia Carys Williams, y lansiwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion yng Nghanolfan Dylan Thomas, Eluned Gramich, sy’n awdur ffuglen ac yn ysgrifwr arobryn, a’r bardd ifanc addawol Natalie Ann Holborow, y mae ei chasgliad cyntaf ar gael bellach gan Parthian Books. Yn ogystal, mae gwaith Mao Oliver-Semenov, Cymro sy’n byw yn Siberia, wedi’i gyhoeddi’n eang ers ei lwyddiant yng Ngwobr Terry Hetherington.

Detholiad o waith ymgeiswyr yw Cheval, sy’n cael ei gyhoeddi gan Parthian Books ac sy’n cynnwys darnau dethol gan ymgeiswyr eleni, yn ogystal â darnau poblogaidd gan ymgeiswyr blaenorol. Diben Cheval yw rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Bydd Cheval 11 ar gael i’w brynu ar y noson wobrwyo, ar 29 Mehefin, am bris manwerthu o £7.99, gyda’r holl elw’n mynd tuag at y wobr.

Cystadleuaeth 2019

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, am wneud cais am Wobr Terry Hetherington, cyflwynwch ddarn o ffuglen neu farddoniaeth, hyd at 2,500 o eiriau, cyn 31 Ionawr 2019 er mwyn cael eich ystyried ar gyfer gwobr y flwyddyn nesaf. Er mwyn cyflwyno eich cais, a darllen yr holl amodau a thelerau, ewch i: https://chevalwriters.org.uk/index.html

This post is also available in: English