‘Dwlu ar y Geiriau’ ar Ddiwrnod y Llyfr

‘Dwlu ar y Geiriau’ ar Ddiwrnod y Llyfr

Cynhaliwyd Diwrnod y Llyfr ar 5 Mawrth eleni, ac i ddathlu, croesawyd disgyblion o Ysgol Gynradd Danygraig ac Ysgol Pen-y-Bryn i Ganolfan Dylan Thomas. Roedd y myfyrwyr o Ysgol Pen-y-Bryn wedi helpu’r bobl ifanc o Ysgol Danygraig i archwilio ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ ac i gwblhau’r cwis.

Ar ôl hynny, darllenom adran o ddarllediad Dylan, ‘Reminiscences of Childhood’, lle mae’n sôn am Barc Cwmdoncyn, a sut yr oedd yn ei ysbrydoli. Cawsom ein hysbrydoli i greu ein darluniadau ein hunain o Barc Dylan.

Crëodd dîm Pen-y-Bryn fideo byr gwych o’r ymweliad, a gallwch ei wylio yma-

This post is also available in: English