Under Milk Wood – 14 Mai 1953 | Rhan Tri – Y Perfformiad

Under Milk Wood – 14 Mai 1953 | Rhan Tri – Y Perfformiad

Yn rhan olaf ei blogiau ar lwyfanniad enwog Efrog Newydd o Under Milk Wood, mae Katie yn adrodd hanes y perfformiad ei hun.

Ar noson 13 Mai, roedd Dylan yn ymlacio yn Connecticut, ar ôl rhoi darlleniad barddoniaeth llwyddiannus. Canodd y ffôn; Liz Reitell oedd yno. Roedd Dylan i fod yn ôl yn Efrog Newydd drannoeth ar gyfer perfformiad cyntaf o Under Milk Wood yn The Poetry Center. Dim ond un broblem fach oedd – doedd y sgript ddim wedi’i gorffen o hyd. Roedd Liz yn ffonio i gynnig hedfan i Connecticut i weithio ar y sgript gyda Dylan dros nos. Yn ôl John Malcom Brinnin, yn Dylan Thomas in America, sicrhaodd Dylan hi y byddai’n gweithio ar y sgript tan y wawr er mwyn ei gorffen ar amser.

Cafodd Dylan noson gynnar, ond fore trannoeth, roedd ar ddi-hun gyda’r wawr, yn ysgrifennu ar ‘little pieces of scratchpaper’. Daliodd ef a Brinnin y trên i Efrog Newydd a pharhaodd Dylan i ysgrifennu, gan gwblhau ‘whole new series of scenes’ erbyn iddynt gyrraedd The Poetry Center. Fodd bynnag, doedd gan Under Milk Wood ddim diweddglo o hyd. Cawsant ymarfer cast yn y prynhawn ac yna, wedi’i ddogfennu yn Portrait of Dylan, gan Rollie McKenna, aeth hi, Dylan, Liz a dau deipydd i’w fflat ychydig flociau i ffwrdd o’r Center, a pharhau i weithio. Gosodwyd bwrdd cardiau ar gyfer Dylan; byddai’n ysgrifennu golygfa, byddai Liz yn darllen drosti ac yn argraffu unrhyw ddarnau annarllenadwy, yn eu rhoi i’r teipyddion ac yn gwneud copïau i’r actorion.

Am ddeg munud wedi wyth, gyda’r perfformiad yn dechrau am 8.40pm, roedd Brinnin a Liz Reitell yn argyhoeddedig y byddai’n rhaid gohirio’r sioe. Dywedon nhw hyn wrth Dylan. Ymatebodd Dylan fod hynny’n ‘annychmygol’ ac, yn ôl Brinnin, llwyddodd i ‘ddyfeisio diweddglo posib’ gyda munudau i’w sbario. Nododd Rollie McKenna ei wyneb gwelw a sylweddolodd na allai ‘fynd ar y llwyfan yn edrych fel yr oedd.’ Fe’i hanfonodd i’r ystafell ymolchi i ymolchi ac eillio ac yna gorchuddiodd ei wyneb â cholur a phowdr lliw haul. Dywedodd Liz Reitell, yn Dylan Remembered Volume Two, eu bod wedi llwyddo i gyrraedd y theatr am hanner awr wedi wyth. Nododd Brinnin fod rhai o’r golygfeydd wedi’u rhoi i’r actorion wrth iddynt gymryd eu lle ar y llwyfan.

Fel y disgrifiodd Rollie McKenna, roedd y set yn un syml gan ei bod yn gweddu i ddrama a fwriadwyd ar gyfer y radio, chwe stôl uchel wedi’u gosod yn erbyn cefndir du, gyda darllenfa o flaen pob un. John Malcom Brinnin wnaeth y cyflwyniad ac yna, daeth y goleuadau i fyny ar bob actor wrth iddo siarad. Rhwng y chwech ohonynt, gwnaethant berfformio rolau pum deg pedwar o gymeriadau. Prif rolau Dylan oedd y Llais Cyntaf a’r Parchedig Eli Jenkins.

Mae’n ffodus bod recordiad wedi’i wneud o’r perfformiad diolch i feicroffon a adawyd ar y llwyfan, gan mai hwn oedd yr unig recordiad sain o Dylan yn perfformio yn Under Milk Wood. Mae gallu clywed ymateb y gynulleidfa i’r ddrama yn hynod ddiddorol – y distawrwydd yn ystod araith gyntaf y Llais Cyntaf, ac yna’r chwerthin petrus wrth i Mog Edwards a Myfanwy Price gyfnewid eu negeseuon serch. Erbyn diwedd y perfformiad roedd y gynulleidfa’n chwerthin yn agored ac yn frwd, roedd y cyfnewidiadau rhwng Mr Pugh a’i wraig fel pe baent yn achosi digrifwch arbennig. Nid oedd yn ddarn gorffenedig – nid oedd Gweddi Hwyrol Eli Jenkins wedi ei hysgrifennu eto, er enghraifft, ond roedd ganddo ddiweddglo.

Ar ddiwedd y perfformiad, pylodd y goleuadau a chofiodd Brinnin fod y ‘mil o wylwyr yn eistedd fel petaent wedi’u syfrdanu.’ Fodd bynnag, pan ddaeth y goleuadau yn ôl i fyny, dechreuodd y gymeradwyaeth a doedd dim arwydd y byddai’n dod i ben. Cymerodd yr actorion bedwar ar ddeg o len-alwadau. Esboniodd Nancy Wickwire fod Dylan wedi gwrthod mynd allan ar ei ben ei hun, gan ei fod eisiau sicrhau eu bod i gyd yn derbyn y gymeradwyaeth, ei fod ‘mor hael i bob un ohonom.’ Fodd bynnag, ar ôl dwyn tipyn o berswâd arno, ar yr bymthegfed len-alwad, camodd Dylan allan ar ei ben ei hun a phlygu ei ben. Yn ôl Rollie McKenna ‘Dim ond y rheini yn y rhesi cyntaf a allai weld y dagrau ar ei ruddiau’ wrth iddo wneud hynny.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English