Gwyl Dylan Thomas

llareggubtimes

Mae Gŵyl Dylan Thomas yn dychwelyd i Abertawe gyda rhaglen ddigwyddiadau a fydd yn difyrru pob math o gynulleidfa.

Bydd gweithgareddau eleni’n dechrau ar 27 Hydref, gyda Pharti Pen-blwydd Mawr Dylan, diwrnod llawn gweithgareddau hwyl i’r teulu eu mwynhau.

Bydd awduron brwd yn mwynhau’r gweithdai ysgrifennu creadigol sy’n canolbwyntio ar arddulliau ysgrifennu gwahanol – pryder cyffrous stori fwganllyd dda, ysgrifennu am fwyd, i arddull arbennig y filanél.

Heb os bydd cefnogwyr rygbi’n mwynhau Eddie Butler yn darllen ac yn trafod ei lyfr newydd, Gonzo Davies Caught in Possession, ac yn rhannu ei farn am Gwpan Rygbi’r Byd.

Bydd y rhai sy’n dwlu ar Bond a bywgraffyddion fel ei gilydd yn gwerthfawrogi rhai o gyfrinachau Andrew Lycett, awdur bywgraffiadau Dylan Thomas ac Ian Fleming, wrth iddo eu datgelu yn ei sgwrs ddarluniadol, lle mae hefyd yn datgelu sut mae’n ysgrifennu am fywydau pobl mor enwog.

No Events

This post is also available in: English