Sgwad Sgwennu’r Ifanc yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda Jonathan Edwards

Sgwad Sgwennu’r Ifanc yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda Jonathan Edwards

Date/Time
05/10/2019
10:00 am - 4:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Mae’n Sgwad Sgwennu’r Ifanc Canolfan Dylan Thomas yn falch iawn o gymryd rhan yng Ngŵyl Ymylol Abertawe unwaith eto!

Mae ein sgwad i bobl ifanc 11 i 16 oed yn cwrdd dwywaith y tymor ar foreau Sadwrn am weithdy am ddim gydag ysgrifennwr. Ddydd Sadwrn 5 Hydref, rydym yn falch o groesawu’r bardd bendigedig, Jonathan Edwards, yn ôl yma. Enillodd Jonathan Wobr Barddoniaeth Costa am ei gasgliad cyntaf, My Family and Other Superheroes, a rhyddhawyd ei ail lyfr hir ddisgwyliedig, Gen, yn ddiweddar.

Cofrestrwch naill ai ar gyfer sesiwn y bore o 10am i 12.30pm neu sesiwn y prynhawn o 1.30pm i 4pm. Rhaid cadw lle gan fod lleoedd yn brin.  E-bostiwch Jo yn dylanthomas.lit@swansea.gov.uk i ymuno â Sgwad Sgwennu’r Ifanc ac i gadw lle yn y gweithdy. Mae rhagor o wybodaeth am y sgwad yn dylanthomas.com.

Ariennir a rheolir y sgwadiau gan Gyngor Abertawe gyda chefnogaeth gan Lenyddiaeth Cymru.

Am ddim – awgrymir cyfraniad o £3.

 

This post is also available in: English