Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc

Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc

Date/Time
01/12/2018
10:00 am - 4:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Mae ein sgwad o blant 11-16 oed yn cwrdd ddwywaith y tymor ar fore dydd Sadwrn ar gyfer gweithdy am ddim gydag awdur. Ddydd Sadwrn 1 Rhagfyr rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda’r awdur gwych ac amryddawn, Siôn Tomos Owen. Mae gweithdai Siôn bob amser yn wych ac yn ddyfeisgar, felly cadwch eich lle nawr!

Cofrestrwch ar gyfer naill ai’r sesiwn fore rhwng 10.00am a 12.30pm neu sesiwn y prynhawn rhwng 1.30pm a 4.00pm.

Rhaid cadw lle gan fod lleoedd yn brin. E-bostiwch Jo – jo.furber@abertawe.gov.uk – i ymuno â’r Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc ac i gadw lle ar gyfer y gweithdy. Mae mwy o wybodaeth am y criw yma: dylanthomas.com/cy/allgymorth-a-dysgu/sgwad-sgwennu-pobl-ifanc-abertawe 

Ariennir a chynhelir y criw gan Gyngor Abertawe, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru.

This post is also available in: English