Sgriptio Creadigol ar gyfer Gemau Cyfrifiadur a Fideo gydag Al Kang

Date/Time
09/09/2017 - 10/09/2017
2:00 pm - 4:30 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Sesiwn 1: Dydd Sadwrn  2pm-4.30pm
Sesiwn 2: Dydd Sul 2pm-4.30pm

Cynhelir y gweithdy ymarferol hwn dros ddau brynhawn a bydd yn archwilio sut i greu profiadau naratif ar gyfer gemau cyfrifiadur. Bydd y gweithdy yn trafod y rhwystrau amrywiol y gellir dod ar eu traws yn ystod camau cynnar creu stori ac yn datgelu’r arferion gorau a ddefnyddir yn y diwydiant i helpu i roi ymdeimlad o ffilm Hollywood i stori gêm fideo. Bydd y gweithdy’n archwilio methodolegau clasurol ar gyfer adrodd straeon, o straeon ffuglen i ryddiaith, sy’n cael eu cynnwys mewn sgriptio ffilmiau a rhaglenni teledu a sut maent yn berthnasol i fath diweddaraf yr 20fed ganrif o ffuglen adloniant.

Bydd Sesiwn 1 yn canolbwyntio ar y Sgript Ffilm 360 Gradd a bydd Sesiwn 2 yn trafod sut i Greu Profiad Naratif mewn Gêm.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol (dim hyd yn oed profiad o chwarae gemau!). Yr unig beth y mae ei angen arnoch yw meddwl agored i greu bydoedd, cymeriadau a golygfeydd newydd mewn cyfrwng agored lle mae eich cynulleidfa’n arwain y ffordd. Dewch â’ch gliniadur neu’ch tabled eich hun.

Tocynnau

14 oed ac yn hŷn.

  • Pris llawn £15
  • Consesiynau £10
  • PTL Abertawe £5

Book now

Al Kang

Mae gyrfa Al Kang yn cynnwys dros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adloniant, gan weithio i gwmnïau blaenllaw megis EA, Mattel, Alliance Atlantis a Cartoon Network.

Dechreuodd Al ei yrfa fel artist straeon ar raglenni teledu adnabyddus megis Barbie, Dragon Booster ac Ed, Edd ‘n’ Eddy. Yn 2003, derbyniodd y Wobr Ben Wicks glodwiw am Ddarlunydd Plant Rhagorol yng Nghanada.

Yn dilyn gyrfa bedair blynedd ddisglair gydag EA yn gweithio ar brosiectau megis Need for Speed: Underground, Underground 2, a Need for Speed: Most Wanted, cafodd Al ei recriwtio gan dîm datblygu IP cyfrinachol EA lle ysgrifennodd sgriptiau a chreu celf stori ar gyfer 3 phrosiect cenhedlaeth nesaf newydd… epig ffugwyddonol ddi-ddal-yn-ôl, antur gyffrous yn arddull Guy Ritchie a’r gyfres newydd EA Skate a aeth ymlaen i fod yn llwyddiant ysgubol.

Swydd ddiweddaraf Al yn y diwydiant oedd gyda LucasArts fel Artist Arweiniol ar Star Wars: The Force Unleashed.

Ar hyn o bryd, mae Al yn gweithio fel Uwch-ddarlithydd yn PCYDDS ar raglenni Animeiddio Cyfrifiadurol 3D a Dylunio Gemau y brifysgol. Mae hefyd yn y broses o gyd-drafod ei sgript ffilm hyd llawn ag actorion byw ar gyfer cynhyrchiad fel menter Gymreig/Tsieineaidd ar y cyd.

Yn ei amser rhydd, mae Al yn gweithio gydag actorion/cerddorion/cynhyrchwyr lleol ar brosiectau ffilmiau byr amrywiol yn y gobaith o rannu ei wybodaeth â chenedlaethau’r dyfodol o ddarpar artistiaid ac ysgrifenwyr yn y diwydiant adloniant.

This post is also available in: English