‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’: Gweithdy gwasg argraffu fach dros dro

‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’: Gweithdy gwasg argraffu fach dros dro

Date/Time
04/12/2022
10:00 am - 1:00 pm


Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas i gael hwyl wrth argraffu cardiau Nadolig!

Dysgwch sut i greu argraffiad colagraff gan ddefnyddio technegau sy’n ystyriol o’r amgylchedd, a gallwch greu eich cardiau Nadolig unigryw eich hunan wedi’u hysbrydoli gan stori hudol Dylan, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru.’

Cynhelir y gweithdy yn ein man dysgu hygyrch ac mae mwyaf addas ar gyfer pobl 8 oed ac yn hŷn. Mae ardal weithgareddau hunanarweinedig i blant iau hefyd ar gael, gyda llu o weithgareddau difyr i’w mwynhau.

Galwch heibio, am ddim.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth ar ôl cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w mwynhau yn ein lle arddangos.

This post is also available in: English