Milltir Dylan Thomas

Milltir Dylan Thomas

Date/Time
21/09/2014
12:00 pm


Mae Abertawe’n dathlu canmlwyddiant Dylan Thomas yn ystod 2014, ac mae 10K Bae Abertawe Admiral yn ymuno yn yr hwyl drwy gyflwyno Milltir Dylan Thomas.

Enillodd Dylan Thomas ras ‘Milltir Abertawe’ yn 14 oed ar faes San Helen ym 1928 fel rhan o ddiwrnod mabolgampau blynyddol Ysgolion Gramadeg Abertawe.

Roedd Dylan yn athletwr brwd yn ei arddegau ac yn falch iawn o’i fuddugoliaeth. Daethpwyd o hyd i’r toriad hwn o bapur newydd yn nodi’r fuddugoliaeth yn ei waled pan fu farw.

Mae’r filltir yn agored i bawb a bydd yn dechrau ganol dydd ar Brom Abertawe. Gallwch gyflwyno cais ar-lein nawr

Gobeithio y gallwch ymuno â ni!

 

This post is also available in: English