Mae llwybr ‘Hoff Losin Dylan’

Date/Time
01/04/2023 - 01/05/2023
10:00 am - 4:30 pm


1 Ebrill i 1 Mai, yn ystod oriau agor (dydd Mercher – dydd Sul ac yn ystod gwyliau banc, 10am – 4.30pm)

Dewch draw i Ganolfan Dylan Thomas dros Wyliau’r Pasg i ddarganfod ein llwybr newydd sbon ‘Hoff Losin Dylan’! Roedd Dylan yn arfer dwlu ar fwyta losin yn y bath ac ysgrifennodd am rai o’i ffefrynnau yn ei straeon a’i ddarllediadau. Roedd e’ hefyd yn arfer prynu’i losin yn siop losin Mrs Ferguson cyn mynd i weld ffilm yn sinema Uplands. Gan gymryd ysbrydoliaeth o hyn, rydym wedi cuddio jariau bach sy’n cynrychioli’r losin yn yr arddangosfa Dwlu ar y Geiriau – allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd? Mae’n hwyl i bawb yn y teulu, waeth beth yw’ch oed, ac mae gwobr os dewch chi o hyd i bob jar.

 

This post is also available in: English