‘Llyfrau Syniadau’ – Gweithdy i Deuluoedd wedi’i Ysbrydoli gan Roald Dahl
Date/Time
26/08/2016
1:00 pm - 2:30 pm
Location
Canolfan Dylan Thomas
Yn union fel Dylan Thomas, cadwodd Roald Dahl hen lyfrau ymarferion yr oedd yn eu llenwi ag ysbrydoliaeth ar gyfer ei lyfrau.
‘Llyfrau syniadau’ oedd ei enw ar y rhain. Gan ddechrau gyda dyddlyfrau gwag, byddwn yn dylunio tudalennau ar gyfer creu a chadw syniadau ac, ar hyd y ffordd, yn archwilio amrywiaeth cyffrous o dechnegau.
Mae’r gweithdy hwn yn addas i deuluoedd â phlant a phobl ifanc 8 oed a hŷn.
Bydd dyddlyfrau gwag ar gael ar y diwrnod am £1.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100 Cymru.
This post is also available in: English