Gweithgareddau hunanarweiniedig ‘Holiday Memory’

Date/Time
22/07/2023 - 03/09/2023
10:00 am - 4:00 pm


Bob dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul, 10am i 4pm

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas am amrywiaeth o weithgareddau hunanarweiniedig difyr sy’n addas i deuluoedd.

Gallwch gael hwyl yn archwilio darllediad radio Dylan o ‘Holiday Memory’ ac yn nodi eich atgofion eich hun o wyliau hefyd. Gallwch fwynhau pypedau glan môr, ysgrifennu ac addurno cerdyn post, creu comig bach ‘Holiday Memory’, barddoniaeth fagnetig, gemau creu straeon, cornel ddarllen a mwy.

Mae gweithgareddau sy’n addas ar gyfer ystod o oedrannau, croeso i bawb! 😀

Bob dydd  Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul, o 22 Gorffennaf i 3 Medi (ac eithrio 19 Awst). Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm.

Am ddim

This post is also available in: English