Gweithgareddau hunanarweinedig ‘Here in this spring’

Gweithgareddau hunanarweinedig ‘Here in this spring’

Date/Time
23/03/2024 - 06/05/2024
10:00 am - 4:30 pm


  • 23, 24, 27, 30, 31 Mawrth 10am – 4pm
  • 28 Mawrth, 10am – 12.30pm
  • 1, 3, 5, 6, 7, 13, 14, 21, 27, 28, Ebrill, 10am – 4pm
  • 4 Ebrill, 10am – 12.30pm
  • 4, 5 and 6 Mai, 10am – 4pm  

Y gwanwyn hwn rydym yn archwilio natur a bywyd gwyllt  yng ngwaith Dylan a bydd ein Man Dysgu sy’n addas i deuluoedd ar agor ar gyfer gweithgareddau hunanarweinedig am ddim ar y thema hon.

Bydd ysgrifennu creadigol wedi’i ysbrydoli gan natur, pypedau anifeiliaid, posau a gemau bwrdd, cornel ddarllen ac ardal synhwyraidd. Gallwch liwio a gwneud eich pecyn hadau eich hun wedi’i ysbrydoli gan Dylan Thomas – yna gallwch fynd i’r ddesg flaen i ychwanegu sgŵp o hadau blodau gwyllt a dyfwyd yn lleol!

Yn wych i bobl o bob oedran.

Digwyddiad galw heibio, mynediad am ddim .

This post is also available in: English