Gweithdy Ysgrifennu Creadigol i blant rhwng 10 ac 14 oed gydag Eloise Williams

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol i blant rhwng 10 ac 14 oed gydag Eloise Williams

Date/Time
07/08/2019
1:00 pm - 3:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Mae’n haf ac mae’n tymheredd yn codi. Bydd eich straeon yn chwilboeth!

Fydd eich geiriau’n mynd â chi ar wyliau pleserus a hamddenol neu’n eich taflu i foroedd stormus? Fyddwch chi’n treulio’ch haf yn torheulo gyda ffrindiau ar draethau euraid disglair? Neu fyddwch chi’n gwersylla ar eich pen eich hun mewn storm lwch goch ar blaned Mawrth?

I ble bynnag yr ewch chi, ewch â’ch dychymyg gyda chi. Mae’n amser gwasgaru’ch syniadau i’r gwynt a hwylio ar antur oes!

Cefnogir y digwyddiad gan Lenyddiaeth Cymru

Dylech gadw lle ymlaen llaw yn dylanthomas.com neu ffoniwch 01792 463980.

Mae pob un o’n digwyddiadau i deuluoedd am ddim, ond awgrymir eich bod yn cyfrannu £3.

This post is also available in: English