Gweithdy ‘Holiday Memory’ gyda Siôn Tomos Owen

Gweithdy ‘Holiday Memory’ gyda Siôn Tomos Owen

Date/Time
05/08/2022
10:00 am - 12:00 pm


Ymunwch â’r ysgrifennwr, y darlunydd a’r cyflwynydd teledu Siôn Tomos Owen yng Nghanolfan Dylan Thomas ar gyfer gweithdy gwych llawn hwyl i’r teulu! Byddwn yn archwilio holl hwyl gwyliau’r haf mewn gweithdy ysgrifennu creadigol a darlunio a ysbrydolwyd gan ddarllediad radio Dylan, ‘Holiday Memory’, sy’n adrodd hanes gŵyl y banc fis Awst cofiadwy yn Abertawe.

Bydd Siôn yn cyflwyno’r gweithdy hwn yn ddwyieithog ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer plant rhwng 7 a 12 oed a’u teuluoedd. Mae croeso i frodyr a chwiorydd iau ymuno ond efallai y bydd angen cymorth gan oedolyn ychwanegol. Mae croeso i frodyr a chwiorydd hŷn hefyd. Bydd y sesiynau’n gyfyngedig i bedwar grŵp o hyd at chwe oedolyn a phentyn sy’n cymryd rhan (cyfanswm o 24 o gyfranogwyr). Dylai fod un neu fwy o oedolion yn cymryd rhan ym mhob grŵp.

Archebwch eich tocynnau am ddim yma!

This post is also available in: English