Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Llyfrgell Comics Fach ‘Holiday Memory’

Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Llyfrgell Comics Fach ‘Holiday Memory’

Date/Time
26/07/2024
1:00 pm - 4:00 pm


Dydd Gwener 26 Gorffennaf, 1pm – 4pm

Ydych chi’n dwlu ar gomics a chreu straeon? Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas am weithdy creadigol difyr lle gallwch greu eich llyfrgell comics fach eich hun! Gallwch ddylunio ac arlunio cymeriadau, creu eich stori ac yna ddylunio clawr deniadol. Bydd cyfle gennych hefyd i greu llyfrgell fach i storio’ch comics creadigol!

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 7+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau’r gweithgaredd.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Galw heibio, am ddim.

This post is also available in: English