Gweithdai am ddim i’r teulu y Pasg hwn gyda Siôn Tomos Owen

Gweithdai am ddim i’r teulu y Pasg hwn gyda Siôn Tomos Owen

Date/Time
14/04/2022
10:00 am - 4:30 pm


Y Pasg hwn, dewch i ymuno â’r ysgrifennwr, y darlunydd a’r cyflwynydd teledu Siôn Tomos Owen yng Nghanolfan Dylan Thomas ar gyfer gweithdy gwych llawn hwyl i’r teulu! Byddwn yn archwilio cariad Dylan at losin fel rhan o weithdy ysgrifennu creadigol a darlunio sy’n seiliedig ar greu losin cyffrous a newydd ar gyfer siop losin Ferguson – y siop lle’r oedd Dylan yn prynu losin pan oedd yn blentyn.

‘Here once was Mrs Ferguson’s, who sold the best gob-stoppers and penny packets full of surprises.’ Return Journey, Dylan Thomas

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer plant rhwng 7 a 12 oed a’u teuluoedd. Mae croeso i frodyr a chwiorydd iau ymuno ond efallai y bydd angen cymorth gan oedolyn ychwanegol. I sicrhau lles ymwelwyr, bydd pob sesiwn yn gyfyngedig i bedwar grŵp o hyd at 6 oedolyn a phlentyn (24 o gyfranogwyr ar y cyfan). Dylai fod un neu fwy o oedolion yn cymryd rhan ym mhob grŵp.

I archebu’ch tocyn am ddim: What’s On In Dylan Thomas Centre, Swansea | TicketSource neu ffoniwch Ganolfan Dylan Thomas ar 01792 463980 yn ystod yr oriau agor o 10am i 4.30pm rhwng dydd Mercher a dydd Sul.

Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Casgliadau Esmée Fairbairn

Os ydych yn anhwylus neu’n methu dod ar y diwrnod am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni fel y gallwn ganslo’ch lle.

This post is also available in: English