Dylan Thomas: Ei Eiriau mewn Cerddoriaeth

Date/Time
09/10/2014
7:00 pm

Location
National Waterfront Museum


Darlith gyda lluniau gan yr arweinydd Edward-Rhys Harry.  Ydy hi’n bosib i fardd enwog Cymru estyn ei ddylanwad llenyddol y tu hwnt i fydoedd naratif, barddoniaeth a rhyddiaith?

Ymunwch â ni am noson arbennig wedi’i britho gan berfformiadau byw ac wedi’u recordio o eiriau Dylan Thomas mewn ffyrdd na fyddwch wedi’u clywed o’r blaen.

Bydd y noson yn agor gyda pherfformiad gan Gôr Meibion Dyfnant wedi’i ddilyn gan y perfformiad cyntaf yng Nghymru o The Force That Through The Green Fuse Drives the Flower – trefniant corawl i gerdd Thomas a ysgrifennwyd yn ei arddegau hwyr a gomisiynwyd ar gyfer y canmlwyddiant eleni gan deulu Dylan Thomas ei hun.

Gan gynnwys:

Côr Meibion Dyfnant

Camerata Cymry Llundain

Jenny Trew – piano

Steffan Morris – sielo

Edward-Rhys Harry – siaradwr ac arweinydd

Mewn cydweithrediad â Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe.

Digwyddiad am ddim

Mwy o wybodaeth: www.amgueddfacymru.ac.uk – 02920 573600

This post is also available in: English