Digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth Dylan Thomas

Date/Time
02/10/2014
3:00 pm - 4:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Cynhelir Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol bob blwyddyn ar y dydd Iau cyntaf ym mis Hydref. Y thema eleni yw “Cofio” a chan ei bod yn 100 mlynedd ers geni Dylan Thomas, mae’n briodol ein bod yn cofio’i gyfraniad.

Mae’n bleser gennym y bydd y bardd amlwg, Paul Henry, yn darllen gwaith Dylan Thomas a byddwn hefyd yn lansio rhestr ddarllen gymeradwy o’i waith. Mae hyn wedi cynnwys cydweithio rhwng yr holl lyfrgelloedd yng Nghymru, ochr yn ochr â Chyngor Llyfrau Cymru a Chanolfan Dylan Thomas, gyda chefnogaeth Dylan Thomas 100.

Cysyniad sylfaenol y rhestr ddarllen yw codi ymwybyddiaeth o waith Dylan i ddefnyddwyr llyfrgelloedd ac, o bosibl, y rhai nad ydynt yn defnyddio llyfrgelloedd ledled Cymru, a gweithredu fel teclyn hyrwyddo ar gyfer llyfrgelloedd a’n partneriaid. Bydd hefyd yn cefnogi arddangosfa deithiol newydd Canolfan Dylan Thomas, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, a fydd yn teithio llyfrgelloedd Cymru dros y 18 mis nesaf.

Bydd cyfle hefyd i weld Arddangosfa Llawysgrifau newydd Dylan Thomas. Yn yr arddangosfa hon y bydd llawysgrifau o gerddi, gan gynnwys drafft o ‘Do not go gentle into that good night’, rhestr o eiriau sy’n odli a ffacs o’r gerdd ‘Fern Hill’ gyda chroesair wedi’i ysgrifennu drosti.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys cyfres o luniau du a gwyn o Dylan Thomas, nad yw llawer ohonynt wedi’u dangos na’u hatgynhyrchu’n eang. Mae rhai’n dyddio o ddiwedd y 1930au pan oedd newydd briodi, a thynnwyd yr ail gasgliad yn y 50au cynnar yn Efrog Newydd. Mae’r eitemau hyn yn taflu goleuni ar ei broses ysgrifennu a’i ochr chwareus ac maent ar fenthyg gan Brifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo.

Fe’ch gwahoddir i ymuno â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas, 2 Hydref 2014 am 3.00pm.  Darperir lluniaeth ysgafn.

Atebwch trwy e-bostio steve.hardman@swansea.gov.uk

This post is also available in: English