Beirdd yng Nghanolfan DT gyda Matt Bryden

Date/Time
25/09/2014
7:30 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Mae Matt Bryden yn fardd ac yn athro Saesneg fel Iaith Dramor, ac yn rhinwedd ei waith mae wedi teithio i Dwsgani, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf, Boxing the Compass, yn 2013. Roedd Night Porter, sy’n disgrifio bywyd mewn gwesty yn Swydd Efrog, yn un o enillwyr cystadleuaeth Gwobrau Pamffledi a Chasgliadau Templar yn 2010. Mae ei fersiynau ef o’r bardd o Daiwan, Ami, wedi ymddangos mewn Modern Poetry in Translation a chyhoeddwyd y casgliad llawn, The Desire to Sing after Sunset, gyda’r testun Tsieinëeg ochr yn ochr â’r testun Saesneg yn 2013. Yn 2012, teithiodd â’r gwaith The Captain’s Tower, blodeugerdd am Bob Dylan, mewn lleoliadau ledled y DU, gan gynnwys Gŵyl Latitude. Mae’r noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored.

Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60

01792 463980

This post is also available in: English