Cyfrinachau’r Môr: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol gydag Eloise Williams

Cyfrinachau’r Môr: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol gydag Eloise Williams

Date/Time
21/02/2018
1:00 pm - 3:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Gadewch i ni godi’r angor a chodi hwyl i ddarganfod cyfrinachau’r môr. Dewch i fapio tiroedd tramor, darganfod gorwelion newydd a nofio mewn môr o eiriau.

A fydd eich meddyliau’n gorlifo neu’n teithio mewn llong danfor ar wely’r môr? Nid oes ots os ydych yn arnofio neu’n suddo, ar yr amod eich bod yn creu ac yn meddwl! Plymiwch i ddyfnderoedd cudd eich dychymyg!

Ar agor i fordeithwyr dewr 6-10 oed.

Dewch â chreadigrwydd, syniadau am angenfilod dyfrol newydd sbon ac oedolion mewn gwisg môr-leidr (dewisol).

 

Am ddim – cadwch le ymlaen llaw

Book now

This post is also available in: English