Creu cerddi sydd wedi’u hysbrydoli gan Dylan a natur gyda Ffion Jones

Creu cerddi sydd wedi’u hysbrydoli gan Dylan a natur gyda Ffion Jones

Date/Time
18/02/2026
10:00 am - 12:00 pm


Dydd Mercher 18 Chwefror, 10am i 12pm

Perffaith ar gyfer plant 6-12 oed, ond mae croeso i bobl o bob oedran a gallu.

Ysgrifennodd Dylan Thomas am natur mewn ffyrdd hardd ac weithiau doniol. Hoffech chi ddod i’r ganolfan ac ysgrifennu/creu cerddi gyda ni? Gallwch ddefnyddio’ch hoff anifeiliaid, lleoedd, lliwiau, tirweddau a phobl fel ysbrydoliaeth. Dewch i mewn o’r oerfel a dewch â natur dan do. Byddwn yn chwarae gemau a chael hwyl a byddwch yn gadael gyda cherdd ar y diwedd.

Mae Ffion Jones yn Ymarferydd Creadigol o Abertawe gyda chefndir mewn ysgrifennu creadigol, celfyddydau perfformio ac arferion therapiwtig.

Cadwch eich lle am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/dylanthomas

Mae croeso i oedolion ymuno â’u plant! Mae’n rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Am ddim.

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.

This post is also available in: English