Bookclub BBC Radio 4 gydag Owen Sheers a James Naughtie

Bookclub BBC Radio 4 gydag Owen Sheers a James Naughtie

Date/Time
20/06/2019
5:45 pm - 7:30 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Rydym yn falch o groesawu Bookclub Radio 4 i Ganolfan Dylan Thomas unwaith eto.

Mae Bookclub, a gyflwynir gan James Naughtie, yn gwahodd awduron blaenllaw i drafod eu nofelau enwocaf â darllenwyr.

Bydd Jim yng nghwmni Owen Sheers i drafod I Saw A Man, nofel am ddyn, Michael, sy’n methu ymdopi â marwolaeth ei wraig, Caroline, a fu farw yn ystod ymosodiad dronau wrth iddi wneud ffilm ddogfen am jihadwyr o Bacistan; ar yr un pryd, mae wedi dod i adnabod ei gymdogion newydd yn dda sef Josh Nelson, banciwr cyfoethog Lehman Brothers, a’i deulu perffaith. Mae Michael yn fedrus wrth ddod yn rhan o fywydau pobl eraill, a chyn bo hir mae’r teulu Nelson yn dechrau dwlu arno, a’i gyflwyno i bobl eraill mewn partïon a gadael iddo warchod merched clyfar ifanc y teulu. Pan gyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol yn 2015, cafodd ei alw’n waith adrodd stori gafaelgar. Dyma gyfle unigryw i gymryd rhan yn un o raglenni celfyddydau mwyaf poblogaidd Radio 4.

AM DDIM

I drafod I Saw A Man ag Owen Sheers yn ystod recordiad Bookclub, cadwch le trwy wefan y BBC: www.bbc.co.uk/programmes/b006s5sf

This post is also available in: English