Antony Penrose: ‘Picasso, Man Ray a Max Ernst trwy lygaid Lee Miller a Roland Penrose’

Antony Penrose: ‘Picasso, Man Ray a Max Ernst trwy lygaid Lee Miller a Roland Penrose’

Date/Time
11/06/2016
1:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Picasso, Man Ray a Max Ernst oedd tri o artistiaid allweddol yr 20fed ganrif. Roeddent hefyd yn ffrindiau agos gyda’r ffotograffydd swrrealaidd, Lee Miller, a’r artist swrrealaidd, Roland Penrose. Roedd ganddynt oll, yn eu tro, gysylltiadau â Dylan Thomas. Hwn yw rhan gudd y stori am gyfeillgarwch unigryw a barhaodd dros gyfnod y mudiad swrrealaidd a 30 mlynedd olaf bywyd Picasso. Adroddir y stori gan Antony Penrose a oedd yn dyst i rai o’r digwyddiadau, gan ddefnyddio geiriau a delweddau’r rhai a oedd yno.

Pris Llawn £5  Consesiynau £3.50  PTL Abertawe £1.60

Prynwch Ar Y lein

This post is also available in: English