Under Milk Wood
Cyhoeddwyd ‘drama i leisiau’ enwog Dylan yn gyntaf ar ffurf llyfr ym 1954, ac nid yw erioed wedi bod allan o brint.
Mae sawl argraffiad ar gael ar hyn o bryd. Mae The Folio Society wedi cynhyrchu copi clawr caled ar gyfer eu haelodau sydd wedi’i ddarlunio gan yr artist o Abertawe, Ceri Richards.
Mae’n haws cael gafael ar fersiwn Penguin Classics a olygwyd ac sy’n cynnwys rhagair gan Walford Davies (Llundain: Penguin, 2000) ac argraffiad clawr meddal phoenix a olygwyd gan Walford Davies a Ralph Maud (Llundain: Phoenix, 2004).
This post is also available in: English