The Broadcasts

Dylan Thomas – The Broadcasts, golygwyd a chyflwynwyd gan Ralph Maud (Llundain: Dent, 1991)

Roedd Dylan wedi’i hudo â’r radio o oedran ifanc: yn ei arddegau ffurfiodd Gorfforaeth Ddarlledu Warmley gyda’i ffrind, Daniel Jones, a ddarlledodd rhaglenni o ystafell lan llofft yng nghartref Jones. Cyflwynwyd ei ddarllediad BBC cyntaf, ‘Life and the Modern Poet’, ar 21 Ebrill 1937 pan oedd yn 22 oed yn unig.

Yn dilyn hyn gwnaeth Dylan gryn dipyn o waith i’r BBC fel darlledwr proffesiynol, oddeutu 145 o weithiau, rhwng 1943 a 1953.  Amrywiai’r pynciau o atgofion ei blentyndod i drafodaethau ag ysgrifenwyr eraill.

Gweithiodd gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr a pherfformwyr, gan gynnwys John Arlott (sydd fwyaf adnabyddus fel sylwebydd criced), Louis Macneice, Aneirin Talfan Davies, Douglas Cleverdon a Roy Campbell. Cadarnhaont oll fod Dylan yn cymryd ei waith yn hynod o ddifrif, a bod llawer o alw am ei ddoniau. Cadarnhaodd Arlott ym 1973 ar raglen y BBC, ‘The Dylan Thomas File’, “Yn ystod yr holl amser a weithiais gydag ef ni wnaeth fy siomi erioed. Y cyfan allaf ei ddweud yw iddo weithio i mi am oddeutu pum mlynedd, a chredaf iddo gyflawni dau draean o’i ddarllediadau i mi. Doedd e byth yn hwyr; doedd e byth yn feddw; ac ni wnaeth waith gwael erioed.”

Dyma’r darllediadau (pob un â chyflwyniad byr gan Ralph Maud) a ailgynhyrchwyd yn y llyfr hwn:

  • Reminiscences of Childhood (1943) version 1
  • Quite Early One Morning (1944)
  • Reminiscences of Childhood (1945) version 2
  • Memories of Christmas (1945)
  • Welsh Poetry (1946)
  • On Reading Poetry Aloud (1946)
  • Poets on Poetry (1946)
  • Poems of Wonder (1946)
  • The Londoner (1946)
  • Wilfred Owen (1946)
  • Margate – Past and Present (1946)
  • How to Begin a Story (1946)
  • What Has Happened to English Poetry? (1946)
  • Holiday Memory (1946)
  • Walter de la Mare as a Prose Writer (1946)
  • The Crumbs of One Man’s Year (1946)
  • Sir Philip Sidney (1947)
  • The Poet and his Critic (1947)
  • Return Journey (1947)
  • A Dearth of Comic Writers (1948)
  • The English Festival of Spoken Poetry (1948)
  • Living in Wales (1949)
  • Edward Thomas (1949)
  • On Reading Aloud One’s Own Poems (1949)
  • Swansea and the Arts (1949)
  • Three Poems (1950)
  • Poetic Licence (1950)
  • Persian Oil (1951)
  • The Festival Exhibition (1951)
  • Edgar Lee Masters (1952)
  • Home Town – Swansea (1953)
  • The International Eisteddfod (1953)
  • A Visit to America (1953)
  • Laugharne (1953)

This post is also available in: English