Dylan Thomas 100

Dathliad rhyngwladol o weithgareddau yw Dylan Thomas 100 i ddathlu 100 mlynedd ers genedigaeth Dylan Thomas yn 2014. Mae Llywodraeth Cymru’n arwain mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol allweddol a sefydliadau eraill yng Nghymru i ddathlu bywyd a gwaith yr awdur arbennig gyda digwyddiadau ledled Cymru, yn y DU ac ym mhedwar ban byd. Mae gan y fenter nifer o lysgenhadon proffil uchel gyda Noddwr Brenhinol EM Tywysog Cymru a Noddwr Anrhydeddus Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas.

Cewch fwy o wybodaeth yn:- www.dylanthomas100.org

 

Digwyddiadau Dylan Thomas 100 yn Abertawe

O amgylch Canolfan Dylan Thomas a thrwy gydol y Ddinas Abertawe
Fel y man canolog rhyngwladol i ddilynwyr ac ysgolheigion Dylan, bydd y ganolfan yn cyflwyno gŵyl gyffrous drwy gydol y flwyddyn yn dathlu mab enwocaf Abertawe, gan arddangos y gorau mewn ysgrifennu modern.

Byddwn yn comisiynu gwaith newydd, arddangos nodiaduron Dylan Thomas, a fydd yn dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf, ac yn datblygu ac yn ehangu Arddangosfa Dylan Thomas.

Penwythnosau Dylan
Gwyliau ar benwythnosau yn Nhalacharn gyda barddoniaeth, bywgraffiad, cerddoriaeth, ffilm, radio a chomedi.

Hynt Dylan gan Lenyddiaeth Cymru
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyflwyno teithiau ac arosiadau, a fydd yn cynnwys caiacio o Dalacharn i Lansteffan, teithiau cart a cheffyl i Fferm Fern Hill, jazz a barddoniaeth bitnic yn Rhydychen a thaith y tu ôl i’r llenni o Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Tŷ Cwch Dylan Thomas
Digwyddiadau sêr, llenyddol a chelf yn y Tŷ Cwch, Penwythnos Talacharn ym mis Ebrill a’r Profiad ‘Sied Ysgrifennu’ (ar draws Sir Gaerfyrddin).

Prifysgol Bangor
Gŵyl Fy Nghyfaill Dylan – ymatebion cerddorol i waith Dylan Thomas.

‘Good Cop Bad Cop’ gyda Chapter, Caerdydd
Lleisiau/Voices – dathliad ac archwiliad o hanes perfformio Cymru o’r gair llafar.

Man Geni Dylan Thomas yn 5 Rhodfa Cwmdoncyn
Dylanathon – marathon ffotograffau sy’n dathlu bywyd a gwaith Dylan Thomas

Oriel luniau
Bedazzled – a Welshman in New York – digwyddiadau’n seiliedig ar berfformio, mewn tafarnau a bariau segur.

Theatr Lighthouse Ltd
Perfformiad promenâd yn Abertawe o Return Journey gan Dylan Thomas

Locws
Ymyriadau celf cyfoes yn y ddinas o amgylch lleoliadau allweddol sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Bydd LlGC yn arddangos yr archif a gasglwyd yn ddiweddar o waith Dylan Thomas mewn arddangosfa arbennig sy’n addo mewnwelediadau a chanfyddiadau newydd.

Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd
Bydd yr Amgueddfa yn cyhoeddi rhagflas ar gyfer canmlwyddiant Dylan Thomas ar y cyd ag artist blaenllaw y DU.

Theatr Genedlaethol Cymru ar y cyd â BBC Cymru
Digwyddiad byd-eang gyda chymysgedd llawn sêr o ddarllediadau ffilm byw a pherfformiadau.

Oriel Myrddin
Celf weledol sy’n benodol i’r safle gyda’r curadur Craig Wood.

Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe
Byddwn yn clywed Trioleg Dylan Thomas gan John Corigliano o Efrog Newydd am y tro cyntaf yng Nghymru yng ngŵyl flynyddol eleni ynghyd â chomisiwn gŵyl gan Karl Jenkins, y cyfansoddwr o Abertawe, o’r enw Llareggub.

Canolfan Celfyddydau Taliesin
Opera newydd gan John Metcalf yn seiliedig ar y darllediad radio cyntaf o Under Milk Wood yn Efrog Newydd.

Theatr Iolo
Mae’r cwmni’n gweithio gyda phobl ifanc a bydd yn perfformio addasiad modern o destun Adventures of the Skin Trade gan Dylan Thomas.

Bydd y Cyfarwyddwr arobryn Michael Bogdanov
yn dod â dathliad y canmlwyddiant i ben gyda chynhyrchiad o A Child’s Christmas in Wales yn Theatr y Grand, gyda thaith ledled Cymru i ddilyn.

This post is also available in: English