Coronafeirws – Y newyddion a’r cyngor diweddaraf

*Diweddariad i’n cwsmeriaid – rydym ar agor, archebwch eich ymweliad am ddim!*

Croeso nôl – rydym wedi gweld eich eisiau!

Rydym yn edrych ymlaen at agor ein drysau i’n hymwelwr unwaith eto. Nid yw’n syndod y bu’n rhaid i ni wneud rhai newidiadau y byddwch yn sylwi arnynt pan fyddwch yn dod i Arddangosfa Dylan Thomas. Rydym wedi dewis rhai o’n hoff ddyfyniadau gan Dylan i’n helpu i’w cyfleu.

‘Time has ticked a heaven round the stars’

Rydym wedi newid ein horiau agor dros dro fel y gallwn gynnig slotiau amser i ymwelwyr i sicrhau bod digon o le i gadw pellter cymdeithasol. Mae hyn hefyd yn caniatáu amser i ni lanhau rhwng pob slot. Byddwn ar agor ar ddydd Iau hyd at ddydd Sul, gyda’r drysau yn agor am 10am.

Archebwch eich slot am ddim cyn i chi ymweld drwy fynd i www.ticketsource.co.uk/dylanthomas neu gallwch ffonio 01792 463980 o ddydd Mercher i ddydd Sul. Bydd slotiau ar gael i’w cadw cyn bo hir.

‘And cure me of ills’

Fel sy’n gyffredin mewn lleoliadau eraill, gofynnwn i chi gysylltu â ni ac aildrefnu’ch ymweliad os ydych yn teimlo’n sâl ar y diwrnod neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID.

‘And before you let the sun in, mind it wipes its shoes’.

Byddwch mor lân â Mrs Ogmore-Pritchard yn Under Milk Wood! Mae mannau diheintio i chi eu defnyddio yn y cyntedd ac wrth i chi gyrraedd ein harddangosfa Dwlu ar y Geiriau.

Dylan loved reading in the bath…

Cadwch bellter cymdeithasol pan fyddwch chi yn Arddangosfa Dylan Thomas. Rydym wedi gosod sticeri ar y llawr i’ch helpu – ond hoffem i chi hefyd ddychmygu bod rhaid i chi gadw hyd ‘Dylan yn y bath’ i ffwrdd o’ch gilydd.

‘O make me a mask’

Gwisgwch orchudd wyneb oni bai eich bod wedi’ch eithrio.

‘Whose wizard shape I trace in the cavernous skull’

Pan fyddwch yn cadw slot am ddim i ymweld â ni, nodwch enw a rhif cyswllt pob person gan fod angen i ni nodi manylion cyswllt pawb at ddibenion Profi, Olrhain a Diogelu. Gellir cael rhagor o wybodaeth am hynny yma.

‘the star-gestured children’

Rydym yn arbennig o gyffrous i groesawu ein hymwelwyr ieuengaf yn ôl! Er nad yw ein man dysgu ar agor eto, mae ein Llwybr i Blant a gael – dewch â’ch pensil eich hun i’w gwblhau! Mae gennym hefyd lu o weithgareddau a phethau hwyl i’w lawrlwytho yma.

‘I will knit you a wallet of forget-me-not blue, for the money to be comfy’

Os ydych chi am brynu rhywbeth o’n siop, byddai’n wych pe gallech dalu gyda cherdyn ond os nad yw hynny’n bosib, rydym hefyd yn derbyn arian parod.

Mwynhewch eich ymweliad!


Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio fel y bo’n briodol.