Siwt Dylan Thomas 1953

dylan's suitDyma’r siwt yr oedd Dylan Thomas yn ei wisgo yn y dyddiau cyn ei farwolaeth yn Efrog Newydd ym 1953. Roedd Dylan ar ei bedwaredd daith ddarlithio i America ar y pryd. Roedd Jorge Fick, a oedd yn berchen ar y siwt, yn arluniwr haniaethol Americanaidd a oedd yn storio ei ddillad yng Ngwesty Chelsea, yr un gwesty lle roedd Dylan yn aros. Dywedir i Dylan fenthyca’r siwt oherwydd, yn gwbl nodweddiadol, nad oedd unrhyw ddillad glân ar ôl ganddo.

Roedd Jorge yn rhannu fflat â Paul Kagol, un o grŵp o fyfyrwyr barddoniaeth. Roedd Jorge yn gweithio ar y rheilffordd dan ddaear ar y pryd. Paul oedd yr un a roddodd benthyg y siwt i Thomas.

Roedd Jorge Fick a’i ffrindiau yn Efrog Newydd yn y pumdegau cynnar i gyd yn fyfyrwyr yn sefydliad enwog y Black Mountain College lle roeddent yn astudio barddoniaeth dan arweiniad Charles Olsen. Roedd Jorge yn arluniwr a oedd hefyd yn ymddiddori’n fawr mewn barddoniaeth. Roedd yr holl arlunwyr yn ymgynnull yn y Cedar Street Bar a’r beirdd yn cyfarfod yn y White Horse Tavern, hoff dafarn Dylan, ond roedd y grwpiau’n symud yn aml rhwng y ddwy dafarn.

Dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach, cysylltodd gweddw Jorge Fick, Judy Perlman, â Chanolfan Dylan Thomas i gynnig y siwt fel rhodd garedig i gasgliad Dylan Thomas y ganolfan.

This post is also available in: English