Rhifyn cyntaf o ‘Collected Poems 1934 – 1952’ gan Dylan Thomas

Rhifyn cyntaf o ‘Collected Poems 1934 – 1952′ gan Dylan Thomas. Cyhoeddwyd ar 10 Tachwedd 1952 gan gyhoeddwyr arferol Dylan, Dent of London.

Roedd yn gasgliad o bob cerdd ond un o’i dri chasgliad blaenorol o farddoniaeth (’18 Poems’, ‘Twenty Five Poems’ a ‘Deaths and Entrances’), yn ogystal â chwe cherdd ychwanegol a ysgrifennwyd ers 1946 i wneud cyfanswm o 90. Y gerdd a hepgorwyd gan Dylan oedd ‘Paper and Sticks’, yr oedd yn ei chasáu.

Dyma’r hyn a ddywedodd Dylan am y llyfr, ‘[It] contains most of the poems I have written, and all, up to the present year, that I wish to preserve. Some of them I have revised a little, but if I went on revising everything that I now do not like in this book I should be so busy that I would have no time to try to write new poems’.

Derbyniodd y llyfr lawer o glod: Ysgrifennodd Philip Toynbee yn yr Observer mai Dylan oedd y ‘greatest living poet’ yn yr iaith Saesneg. Dywedodd Cyril Connolly yn y Times amdano, ‘at his best he is unique, for he distils an exquisite moving quality which defies analysis as supreme lyrical poetry always has’. Roedd Thomas yn hynod falch o adolygiad Stephen Spender, a dywedodd mai dyma’r adolygiad ‘clearest, most considered and sympathetic’. Ysgrifennodd Spender: ‘the romantic characteristic of Dylan Thomas is that his poems contain the minimum material which can be translated into prose. are related to one another within the poem, like the colours of a painting, by the exercise of that sensuous word-choosing faculty of his imagination, which cares more for the feel of words than for their intellectual meanings . . . In this poetry the reader feels very close to what Keats yearned for – a “life of sensations” without opinions and thoughts’.

Dyfynnwyd ym mywgraffiad Paul Ferris, ‘Dylan Thomas’ (Llundain: Dent, 1999) tud 325.

Enillodd ‘Collected Poems’ y Wobr Foyle fawreddog. Gweler DTM 175 – llun o Dylan gyda John Davenport a dynnwyd ar ôl i Dylan ennill y wobr.

This post is also available in: English