Paentiad Olew – portread o Geidwad Parc Cwmdoncyn

oil painting

Mae’r paentiad yn dyddio o oddeutu 1900 ac yn dangos John Smallcombe yn ei wisg Byddin yr Iachawdwriaeth rheng uchel. Roedd yn cael ei boenydio’n aml gan Dylan a’i ffrindiau, a oedd yn ei alw’n “Old Smally”.

Mae darn radio Dylan, ‘Return Journey’, a ysgrifennwyd ar ôl i Abertawe gael ei dinistrio’n rhannol gan y Blitz Tair Noson, yn gorffen gyda Dylan yn ceisio dod o hyd i’w hun ieuanc ym Mharc Cwmdoncyn a gofyn a oedd Ceidwad y Parc yn cofio’r bachgen bach a oedd yn arfer ei wawdio. Yr ateb iasol oedd “Marw marw marw marw marw marw”.

This post is also available in: English