Argraffiad cyntaf o ‘The World I Breathe’

world i breathe

Argraffiad cyntaf o ‘The World I Breathe’ gan Dylan Thomas, cyhoeddwyd gan New Directions ym 1939.

Dyma un o ddim ond 700 o gopïau a gyhoeddwyd yn America yn unig – hwn oedd y llyfr cyntaf gan Dylan i gael ei gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau. Dyma a sbardunodd y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at bedair taith ddarlithio Dylan ledled America ddechrau’r 1950au.

Erbyn 1939, roedd gwaith Dylan wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion a blodeugerddi Americanaidd, a oedd yn ffynhonnell incwm ddefnyddiol. Ym mis Rhagfyr 1939, comisiynwyd Thomas fel awdur gan James Laughlin, a oedd wedi sefydlu ei argraffdy ei hun, “New Directions”, a arweiniodd at ‘The World I Breathe’. Llyfr cain iawn ydoedd a gyhoeddwyd mewn argraffiad bach o 700 o gopïau’n unig. (Fe’i disgrifiwyd gan J.A. Rolph, bywgraffydd Thomas, fel “y prinnaf o lyfrau Thomas”.)

Roedd yn cynnwys deugain o gerddi wedi’u dethol o’i dri llyfr Prydeinig a chyfres o straeon, ailargraffiadau gan mwyaf – er ei fod yn cynnwys y cyhoeddiad cyntaf ar ffurf llyfr o “A Prospect of the Sea” a wrthodwyd gan Richard Church.

This post is also available in: English