Argraffiad cyntaf o ‘Twenty Five Poems’ gan Dylan Thomas

25 poems

Argraffiad cyntaf o ‘Twenty Five Poems’ gan Dylan Thomas. Cyhoeddwyd gan J. M. Dent and Sons Ltd, Llundain ym 1936.

Dyma 1 o 730 o gopïau o’r argraffiad cyntaf. Roedd ail gasgliad o gerddi Dylan yn bennaf yn seiliedig ar y nodiaduron roedd yn eu cadw pan oedd yn ei arddegau yn Abertawe. Parhaodd i bori trwy’r nodiaduron hyn am gerddi a syniadau nes 1940-41 pan werthodd hwy i Lyfrgell Lockwood ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo.

Yn ogystal â’r pedwar nodiadur barddoniaeth, gwerthodd Thomas nodiadur rhyddiaith a thaflenni gwaith ar gyfer ‘Long Legged Bait’. Trefnwyd y gwerthiant trwy ddeliwr yn Llundain, Bertram Rota, a dderbyniodd $140. Mae’n ansicr faint o’r $140 y derbyniodd Thomas. Dywedodd bywgraffydd cyntaf Thomas, Constantine Fitzgibbon, fod Thomas yn 26 oed pan drefnodd y gwerthiant – yr un oedran â Keats pan fu farw.

This post is also available in: English