Animeiddiad Dan y Wenallt Siriol Productions

Animeiddiodd y cwmni o Gymru, Siriol Productions, Dan y Wenallt yn y 1990au.

‘Mae Siriol Productions, cwmni o Gaerdydd, wedi’i gomisiynu gan S4C, mewn cydweithrediad â’r BBC ac Onward Production, i greu fersiwn 50 munud o glasur Dylan Thomas wedi’i hanimeiddio’n llawn. Mae’r gwaith yn cyd-fynd yn berffaith â thrac sain gwreiddiol a chlodwiw y BBC sy’n cynnwys llais Richard Burton.

Mae’r ffilm hefyd yn cynrychioli menter newydd i greu animeiddiadau oedolion ar gyfer y stiwdio, gyda llwyddiannau eraill hyd yn hyn yn cynnwys cyfres SUPER TED fyd enwog a THE PRINCESS AND THE GOBLIN – ffilm hyd llawn wedi’i hanimeiddio, a gynhyrchwyd ar y cyd gyda Pannonia Film o Hwngari ac a grëwyd mewn cydweithrediad â S4C a NHK international.

Gydag arweiniad arbenigol gan yr Athro Walford Davies, mae Siriol wedi dod â thref fach Thomas, gyda llai na 500 o drigolion, yn fyw. Wrth i’r dref ymddangos o’r ‘starless and bible black night’ i arddangos ei thrigolion unigryw, mae gan bob cymeriad ddyfnder sy’n gwneud y fersiwn animeiddiedig hon o Dan y Wenallt yn ddifyr ac yn gyffrous.

This post is also available in: English