Digwyddiadau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Digwyddiadau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Date/Time
06/08/2025
10:00 am - 5:00 pm


6 Awst, 10am – 4pm

Digwyddiadau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Mae thema eleni, ‘Mannau ar gyfer Chwarae’, yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol mannau hygyrch, cynhwysol lle mae plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae’n rhydd, treulio amser a chysylltu â ffrindiau – a theimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’u cymuned.

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, galwch heibio o 10am i 11am (awr dawelach) ac o 11am i 2pm:

Byddwn ym mhrif ddigwyddiad y Diwrnod Chwarae gyda’n tîm creadigol, a llu o weithgareddau hwyliog wedi’u hysbrydoli gan Dylan Thomas y bwriedir iddynt annog chwarae creadigol.

Canolfan Dylan Thomas, sesiwn galw heibio, 10am – 4pm: Yn chwilio am amser tawel oddi wrth brysurdeb y prif ddigwyddiad diwrnod chwarae? Mae arddangosfa ryngweithiol am ddim Canolfan Dylan Thomas, ‘Dwlu ar y Geiriau’ ar agor rhwng 10am a 4.30pm ac mae’n addas i deuluoedd. Rhwng 10am a 4pm bydd ein man dysgu hygyrch yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau synhwyraidd.

Mae holl staff yr arddangosfa wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac addas i deuluoedd, a byddent wrth eu boddau yn eich croesawu i’n harddangosfa.

Am ddim.

Ar-lein: Os na allwch ymuno â ni’n bersonol ar gyfer y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, gallwch greu eich Cwch Dyfyniadau eich hun gartref!

Os na allwch ymuno â ni’n bersonol ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, gallwch greu eich Cwch Dyfyniadau eich hun gartref! Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch: Creu eich Cwch Dyfyniadau eich hun – DylanThomas.com Mae hefyd gennym amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim i’r teulu i chi eu mwynhau yma: www.dylanthomas.com/cy/gweithgareddau-a-lawrlwythiadau/

Trefnir digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Abertawe gan Dîm Cyfleoedd Chwarae Digonol Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â phartneriaid chwarae.

This post is also available in: English