Dylan Thomas: Cerddoriaeth Lliwiau

Dylan Thomas: Cerddoriaeth Lliwiau

Date/Time
22/09/2018 - 01/09/2019
10:00 am - 5:00 pm

Location
Glynn Vivian Art Gallery


Oriel Gelf Glynn Vivian

Daw’r arddangosfa hon â gwaith o gasgliadau Oriel Gelf Glynn Vivian a Chanolfan Dylan Thomas ynghyd er mwyn amlygu’r perthnasoedd a’r deialogau a geir rhwng barddoniaeth a chelf.  Drwy gydol ei fywyd, chwiliodd Dylan am gyfleoedd i weithio gydag eraill.

Ffynnodd yng nghymunedau artistig y 1930au yn Abertawe, lle’r oedd yfwyr coffi Caffi’r Kardomah – beirdd, arlunwyr a cherddorion ar ddechrau eu gyrfaoedd – yn cynnwys Vernon Watkins, Alfred Janes a Dan Jones.

Ar agor dydd Mawrth – ddydd Sul, 10am – 5pm

Am ddim

This post is also available in: English