Ysgrifennu er Llawenydd: Archwilio straeon ac atgofion drwy ysgrifennu creadigol a chreu dyddlyfrau

Date/Time
16/10/2025
10:00 am - 12:00 pm
Dydd Iau 16 Hydref, 10.00am i 12.00pm
Trwy sbardunau ysgrifennu dan arweiniad byddwn yn archwilio pwysigrwydd cadw ein straeon creadigol. Gan ddefnyddio ein hatgofion byddwn yn nodi ein llawenydd, ein diwylliant a’n hanesion unigol a chyfunol. Bydd gwaith yn mynd rhagddo i helpu i lunio cwricwlwm hanes pobl dduon yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y gweithdy, sy’n addas ar gyfer cefndiroedd ysgrifennu o bob math, yn cyfuno ysgrifennu creadigol ac arferion creu dyddlyfrau a ddyluniwyd i annog myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar. P’un a ydych chi’n awdur neu am roi cynnig ar weithgaredd creadigol newydd, mae croeso i bawb.
Arweinir y gweithdai gan yr awdur a’r bardd Taylor Edmonds, sefydlydd gweithdai creadigol Ysgrifennu er Llawenydd.
Cadwch eich lle am ddim
Curadur y gweithdy gan Kumbukumbu, prosiect hanes a threftadaeth pobl dduon Cymru.
Cefnogwch Kumbukmbu: https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=OzUH9VecA0q3whUrPs50xCFhNGiCcXFBgMoHZxkE3A9UME1MTzlVQzZLMEZZVzlRT1lHR1NMSkc3WS4u&route=shorturl
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ssap.org.uk
Ariennir Kumbukumbu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
This post is also available in: English